Croeso I Fforwm Dyffryn Clwyd
Ein Gweledigaeth
Mae Dalgylch Afon Clwyd angen y dŵr glanaf, adnoddau dŵr digonol, a chynefinoedd naturiol ffyniannus i helpu’r gymuned leol a’r economi i ffynnu.
Yn Fforwm Dyffryn Clwyd ein nod yw sicrhau hynny.
Fel Fforwm rydym yn gweithio i ddod â phobl, sefydliadau, diddordebau a materion ynghyd er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon. Trwy ein gwaith rydym yn dangos y gall dod â gwahanol bobl at ei gilydd a harneisio eu sgiliau a’u diddordebau wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd!
Cydweithio a chyfathrebu yw’r allwedd i’n llwyddiant.
Mae’r Fforwm yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
Datblygu Diddordeb ac Ymgysylltiad Lleol
Rydym ar genhadaeth i danio chwilfrydedd, hybu ymwybyddiaeth ac ysbrydoli cyfranogiad yn rhyfeddodau Afon Clwyd a’r dalgylch.
Cefnogi Economi Leoledig
Rydym yn hyrwyddo economi sy’n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn cyfoethogi bywydau pob un tra’n lleihau’r effaith amgylcheddol - bydd pawb ar eu hennill!